Skip to content

Ionawr 2016

    Y siaradwr gwâdd mis hwn oedd Eirian Davies o Hendygwyn.  Derbyniodd Eirian Radd yn y Gymraeg o Goleg y Drindod. Wedi treulio ychydig amser fel athro yn Aberystwyth, aeth i fyw i Gaerdydd lle bu’n gweithio i’r BBC, yn ysgrifennu is-deitlau i raglenni fel Pobol y Cwm a’r Newyddion.  Bu yno am ugain mlynedd cyn symud nôl i Hendygwyn.
    Ei ddiddoreb mawr a phwnc ei gyflwyniad oedd CELF.  Ers amser ysgol mae diddordeb mawr wedi bod ganddo mewn gwaith celf, a daeth ag enghreifftiau niferus o’r gwaith a gynhyrchwyd ganddo ar hyd y blynyddoedd, hyd yn oed pan oedd yn yr ysgol a gweithio i’r BBC.  Eirian enillodd y gystadleuaeth i greu ‘Logo’ i’r Ŵyl Gerdd Dant a gynhaliwyd yn Hendygwyn.
    Enghraifft o’i waith cywrain oedd ceiliog, wedi ei wneud allan o ganiau ‘Coco-Cola’- gwych!
    Deryn wedi ei wneud allan o weiar ffowls a bagiau du plastig wedi eu torri’n fân. Hefyd, roedd ganddo gymeriadau hanesyddol Cymreig wedi eu cerfio i wneud gêm gwyddbwyll.  A dweud y gwir, mae Eirian yn medru creu gwaith celf allan o unrhyw beth.
    Ar hyn o bryd mae Eirian yn gwneud Cwrs M.A. mewn Celf ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae aelodau cangen Hoelion Wyth Hendygwyn yn dymuno pob llwyddiant iddo.
    Cafwyd noson arbennig a diolchwyd iddo am ei gyflwyniad, gan John Arfon Jones a fu’n athro iddo pan yn ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Taf
    Ar ddiwedd y noson gwnaed trefniadau ar gyfer y Cinio Blynyddol, ar Ionawr 22ain, a dosbarthwyd rhaglen Eisteddfod yr Hoelion Wyth a gynhelir yng Nghastell Aberteifi ar Fawrth 4ydd.