Skip to content

Ionawr 2015

    Cynhaliwyd cyfafod cynta’r flwyddyn newydd ar yr 8fed o Ionawr, yn Lolfa Clwb Rygbi Hendygwyn. Ar ôl gair o groeso gan y Cadeirydd Wyn Evans, cyflwynodd y gwestai am y noson sef Rhian Taylor o Dreletert.

    Wedi ymddeol ar ôl gyrfa ym myd addysg lle treuliodd 26 mlynedd fel Pennaeth Ysgol Gynradd Castellhaidd, ei diddordeb ‘nawr yw pysgota gyda phluen. Mae yn frwdfrydig ac yn fedrus iawn nid yn unig fel pysgotwraig ond hefyd fel hyfforddwraig yn y pwnc. Daeth â llawer o’r cyfarpar sydd yn angenrheidiol i bysgotwr i ddangos yn cynnwys y gwahanol blu mae’n defnyddio.

    Dechreuodd ei diddordeb pan fu a’i gŵr Stuart yn sefyll yng Ngwety’r Llyn yn Llanfair ym Muallt ac mae wedi mynd o nerth i nerth ers hynny. Mae wedi cynrychioli Cymru dair waith ac yn ddiweddar daith yn drydydd yn y gystadleuaeth cenedlaethol i ferched Cymru drwy pysgota gyda phluen. Mae hefyd wedi cael ei dewis i dîm Merched a fydd yn cynrychioli Cymru yn y Gystadleuaeth Rhyngwladol a fydd yn cael ei gynnal yn Huntingdon Swydd Caergrawnt yn 2015.

    Cafwyd anerchiad ddiddorol ganddi a diolchwyd i Rhian gan Ithel Parri-Roberts, un o bysgotwyr medrus Hendygwyn.