Skip to content

Ionawr 2012 – Cinio Blynyddol

    Cynhaliwyd cinio blynyddol y gangen yng nghaffi Beca, Efailwen ar nos Wener, Ionawr 22ain. Cafwyd gair o groeso gan y cadeirydd Lyn Howellss ac offrymwyd gras gan Emyr WynThomas. Cawsom wledd arbennig wedi ei pharatoi gan Robert ac yna croesawyd y gwr gwadd sef yr Archdderwydd T James Jones gan Eurfyl Lewis ar ffurf pennillion. Cafwyd araith wych ganddo ar Iolo Morgannwg, yntau oedd yn gyfrifol am sefydlu Gorsedd y Beirdd yn 17 Diolchodd Eifion Evans i Jim am araith hyfryd. Mae’n fraint, yn wir mae’n bleser rhoi croeso nawr i’r llwyth, I ginio cangen Beca, Cymdeithas Hoelion Wyth. Fe gawsom wledd arbennig da Robert, do bid siwr, Ma’r bwyd o’r safon uchaf bob amser gan y gwr. Rhown ddiolch fyd i’r merched fu’n gweini mor jycos, Yn serchog iawn a chwrtais, er gwaetha’r tynnu cos! Mae’n amser i gyflwyno’r siaradwr gwadd i chi, Mae’n wyneb reit gyfarwydd ar sianel S four C! Mae hwn yn ddyn talentog a diwylliedig iawn, Yn sgriptiwr, bardd, darlithydd, dim pall yn wir i’w ddawn. Mae’n dwli ar chwaraeon, boed rygbi a pel droed, Ond deallaf i taw criced fu’r ffefryn ganddo ‘rioed. Mynychodd ef y Coleg yn Aber, ger y lli, Ac yna Coleg Presby, Caerfyrddin wedyn ‘ny. Bu yntau yn weinidog am gyfnod wedi hyn, Da’r Jacs yn Abertawe ym mro yr Elyrch Gwyn. Fe gafodd alwad sydyn i dref y dderwen fawr, Gan eglwys y Priordy, aeth yno gyda’r wawr! Daeth newid gyrfa wedyn i’r crwt o ysgolhaig, Darlithio fu’n y Drindod, mewn Drama a Chymraeg. Ymunodd ymhen tipyn a chriw y BBC, Golygu cyfres sebon, Cwmderi wnaeth fan ‘ny. Enillodd do, dwy goron ‘da’i bryddestau “Llwch” a “Ffin”, Ac yng nghadair Steddfod Wyddgrug eisteddai yn gytun! Mae’i frodyr, John ac Aled, i’ll dau yn feirdd o fri, Yn feistri ar gynghanedd yn debyg iawn i fi! Sdim byd yn well da finne, ‘rol profi y fath ffest, Nag eistedd lawr a gwrando ar araith Jim Parc Nest. Rwy’n siwr y cawn ein swyno, ‘da’i lais melfedaidd ffri, Rhowch groeso i’r Arch Dderwydd, mae’r llawr yn rhydd i chi!

    217m8o
    Eisteddfod Blynyddol Bydd yr aelodau yn ymarfer ar gyfer yr Eisteddfod yn ystod yr wythnosau nesaf.