Skip to content

Ionawr 2010

    Cynhaliwyd cyngerdd o dan nawdd yr Hoelion Wyth nos Wener Tachwedd 27ain yn Neuadd yr Hufenfa, Hendygwyn. Croesawodd y Cadeirydd Ithel Parri-Roberts yr artistiaid sef, Côr Meibion Dyffryn Tywi gyda’i harweinydd Davina Harries; Gwynedd Parry ac Ina Williams ac yn arwain y noson Ifan (JCB) Davies. Llywydd y noson oedd Mr Tony Hughes a chafwyd anerchiad pwrpasol ganddo. Cafwyd cyngerdd llwyddiannus a diolchodd y cadeirydd i Ronnie Howells am drefnu’r noson ac i bawb a fu’n cynorthwyo.

    2e16qnb
    Côr Meibion Dyffryn Tywi, yr Artistiaid, Ifan Davies (JCB), Mr Tony Hughes, Ronnie Howells a Ithel Parri-Roberts.