Skip to content

Ionawr 2009

    Cyfarfu’r Hoelion yn ôl eu harfer yng nghaffi Beca, Efailwen a hynny ar nos Fercher, Tachwedd 26ain. Roedd tipyn o gyffro yno oherwydd heb yn wybod i Huw Griffiths, Dôl y Cwrt roedd Alwyn Humphreys a criw cwmni teledu Tinopolis yn cwato yn y cefn yn barod i roi sioc iddo drwy gyflwyno “Halen y Ddaear”. Cafodd Huw dipyn o syrpreis a’r unig beth a ddywedodd am sbel oedd “bois bach!”. Cyflwynwyd plat “Halen y Ddaear” a bocs o siocled i Huw gan Alwyn. Darllenwyd yr englyn canlynol o waith Wyn Owens gan Eurfyl Lewis: Heddiw mae’n weithred addas – anrhegwn Yr hogyn ag urddas, Yn rhwydwaith ein cymdeithas Abl yw Huw i roddi blas. Darllenodd Wyn Evans yr englyn canlynol o’i eiddo i Huw :- Ffrind i bawb ac un teyrngar – cymeriad A’i ffyddlondeb i’r pethe a gâr, Hoelen Wyth ei filltir sgwar Huw ni, “Halen y Ddaear”. Darlledwyd yr eitem ar rhaglen Wedi 3 ychydig ddiwrnodau cyn y Nadolig. Llongyfarchiadau mawr i ti Huw ar dderbyn yr anrhydedd yma. Bu Alwyn Humphreys yn ddigon caredig i aros mlaen am ychydig i siarad am ei yrfa ( er taw yn hwyr y noson gynt ddychwelodd o Awstralia ) a croesawyd ef yn swyddogol gan y Cadeirydd Robert James. Diolchwyd i Alwyn am noson ddiddorol iawn a bu pawb yn mwynhau basned o gawl bendigedig Robert cyn troi am adref.

    6h4675
    Huw yn ‘Halen y Ddaear’ Huw yn derbyn plât Halen y Ddaear wrth Alwyn Humphreys. Hefyd yn y llun mae criw cwmni teledu Tinopolis.