Skip to content

Ionawr 2009

    Yng nghyfarfod mis Rhagfyr croesawodd y Cadeirydd, Mr. Verian Williams, y wraig wâdd sef Mrs.Fioled Jones o ardal Pencader. Er ei bod wedi ymddeol, bu’n aelod o’r Cyngor Sir am flynyddoedd o dan adain Plaid Cymru. Cafwyd crynhodeb o’i gwaith fel Cynghorydd ac o’r flwyddyn a dreuliodd fel Cadeiryddes. Atebodd nifer o gwestiynau oddi wrth yr aelodau a diolchodd y Cadeirydd iddi ar ddiwedd y noson am ei haraith ddiddorol.