Skip to content

Ionawr 2008

    Cyfarfu’r aelodau yn ol eu harfer yng nghaffi Beca Efailwen ar nos Fercher, Hydref 31ain. Estynnodd y cadeirydd Robert James groeso arbennig i ddau aelod newydd sef Roy Llewellyn a Dyfrig Griffiths a chafodd Roy dipyn o syndod pan ofynwyd iddo i siarad am ei brofiad fel Cadeirydd Cyngor Sir Gar llynedd. Cafwyd amser difyr wrth wrando arno a bu hefyd yn son am sut bu bron iddo golli ei olwg nes iddo ganfod meddyginiaeth. Diolchwyd iddo gan Eurfyl Lewis a bu pawb yn mwynhau cawl blasus Robert ar y diwedd. Cyfarfu’r aelodau eto ar nos Fercher, Tachwedd 28ain ac estynodd Robert groeso cynnes i Gwynedd James o Crundale (gynt o Aberelwyn, Glandwr). Bu Gwyn yn siarad am ei yrfa gyda’r diwydiant dur yn ardal Llanelli a Port Talbot cyn iddo newid cyfeiriad ac ymuno â’r Bwrdd Dwr yn Hwlffordd. Roedd ei swydd yn un anodd o ran ei natur ac yn gofyn am ddefnyddio synnwyr cyffredin a dawn i gyfathrebu’n effeithiol gyda phawb. Roedd yn amlwg ei fod yn berson hynod alluog ond eto yn ddiymhongar a’i draed yn sownd ar y ddaear – ni wnaeth hyd yn oed gyfeirio at y ffaith ei fod wedi derbyn anrhydedd MBE am ei wasanaeth i’r amgylchedd ychydig amser nôl. Diolchwyd iddo am noson ddiddorol a difyr gan Desmond Morgan.