Skip to content

Ionawr 2008

    Ym mis Rhagfyr ymwelodd yr aelodau â Festri Tabernacl ac fe gafwyd noson addysgiadol o hanes Hendygwyn-ar-Daf gan Mr. Gerwyn Williams. Cafwyd crynodeb trylwyr o hanes y dref ac yr oedd yr Arddangosfa yn wych. Mwynhaodd pawb a dymuna’r aelodau ddiolch i wragedd y capel hefyd am baratoi lluniaeth ysgafn. Yng ngyfarfod mis Ionawr croesawodd y Cadeirydd, Mr. Verian Williams, y gwr gwâdd sef y Ficer Roger Thomas o Grymych. Cafwyd hanes ei fywyd o fod yn gweithio yn y Banc, cadw tafarn ac yna mynd i’r Weinidogaeth. Bu’n noson hwylus a diolchwyd i’r Ficer gan Mr. Claude James.