Skip to content

Ionawr 2007

    Un o’r aelodau, Eurfyl Lewis, fu’n croesawu ein gwestai yn y cyfarfod diwethaf, sef Y Fon. Ionwy Thorne, yn enedigol o ardal Twffton ond bellach yn byw mewn daear fras yn ardal Aberdaugleddau. Bu’n sôn am ei diddordebau gyda Ffermwyr Ifanc ac, yn ddiweddarach, gyda Gwartheg Henffordd, cystadlu mewn sioeau, barnu ac ati a hynny gyda dawn a brwdfrydedd merch y pridd. Diolchwyd iddi am ei haraith gan ein Cadeirydd, Robert James a chafwyd cawl cyn diweddu’r noson, fel arfer. Noson ddymunol iawn.