Skip to content

Hydref 2022

    Cynhaliwyd cyfarfod mis Hydref ar nos Iau, 6ed o Hydref, fel arfer yn lolfa Clwb Rygbi Hendy-gwyn.
    Estynnodd y cadeirydd, Claude James groeso cynnes i’n siaradwr gwadd sef Ionwy Thorne o Fferm Studdolph, Aberdaugleddau. Mae Ionwy yn perthyn i deulu’r Ciliau ac wedi bod yn dysgu Cymraeg i oedolion yn ogystal â bod yn weithgar iawn yng C.Ff.I. Llysyfran dros nifer fawr o flynyddoedd.

    Mae’r teulu, sef Ionwy, ei gŵr George a’i merch Non yn bridio gwartheg pedigri Henffordd ac mae fferm Studdolph a’r fuches yn enwog drwy Brydain. Mae gwartheg Henffordd wedi bod yn Studdolph ers 194676 mlynedd! Tad-yng-nhyfraith Ionwy dechreuodd y fuches ond yn 1979, yn dilyn poblogrwydd cynyddol y bridiau cyfandirol, penderfynodd orffen a gwerthu’r fuches i gyd. Yn dilyn y gwerthiant penderfynodd y teulu
    gadw un fuwch er mwyn cadw’r llinach a dechreuodd Ionwy a George fagu buches o’r newydd a dros y blynyddoed, gyda Non ei merch, sy’n frwdfrydig iawn, maent wedi mynd o nerth i nerth ac wedi arddangos ac ennill mewn sioeau dros Prydain. Hefyd, mae teirw a buchod Studdolph wedi eu gwerthu drwy Brydain a’r cyfandir. Clôd mawr hefyd, yw iddynt lwyddo ddwy waith i ennill Buches y Flwyddyn, a hynny yn 2008 ac 2021.
    Llongyfarchiadau i’r teulu ar ei llwyddiant a roedd y cyflwyniad, gyda chymorth lluniau yn ddiddorol dros ben. Diolchwyd i Ionwy gan Tegwyn Williams.

    Waldathon

    Trefor Evans ac Ithel-Parri Roberts o gymdeithas Hoelion Wyth Hendygwyn a’r cylch, yn llongyfarch disgyblion
    Ysgol Dyffryn Taf am ddarllen gwaith Waldo Williams ar ddydd Waldothon.smart