Skip to content

Hydref 2021

    Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ers dechrau’r cyfnod clo, deunaw mis yn ôl, ar Nos Iau, Hydref 7fed yn Lolfa Clwb Rygbi Hendygwyn.   Deuddeg o’r aelodau oedd yn bresennol a chroesawyd hwy yn gynnes gan y Cadeirydd, Claude James.  Noson anffurfiol oedd hon – dim siaradwr gwadd ond cyfle i adnewyddu cyfeillgarwch.

    Gofynnodd y Cadeirydd am funud o dawelwch i gofio am aelodau oedd wedi colli anwyliaid yn ystod y cyfnod, nid o reidrwydd oherwydd Covid-19.  Yn dilyn, offrymodd Ithel Parri Roberts weddi deimladwy iawn dros yr unigolion a gollwyd. Cyfeiriwyd hefyd at yr aelodau sy’n anhwylus ar hyn o bryd, yn cynnwys Myrddin Parry a Ron Jenkins sydd mewn Cartrefi Gofal; Ronnie Howells a Verian Williams (Ysgrifennydd) a oedd ddim yn teimlo’n ddigon da i fod yn bresennol.

    Cynhaliwyd Cyfarfod Blynyddol a phenderfynwyd ail-ethol y swyddogion i gyd.  Penderfynwyd cynnal Cinio Blynyddol, i’w drefnu gan Mel Jenkins, y Swyddog Adloniant pan fydd y canllawiau yn caniatau.  Penderfynwyd hefyd noddi gêm yn y Clwb Rygbi ddechrau’r flwyddyn, sef Hendygwyn  v  Llanelli Wanderer.s    

    Diweddwyd y noson gydag ambell joc gan Huw Davies a dyfiniadau allan o’r llyfr ‘Hiwmor y Cardi’ – noson bleserus i ddechrau’r tymor.

    Bydd y cyfarfod nesaf ar Nos Iau, Tachwedd 4ydd.