Skip to content

Hydref 2019

    Cynhaliwyd cyfarfod mis Hydref, fel arfer, yn Lolfa’r Clwb Rygbi,Hendygwyn.
    Dechreuodd y Cadeirydd, Claude James, trwy ddymuno gwellhad buan i Ronnie Howells ac estyn croeso i aelod newydd, sef Les Evans.

    Y gŵr gwadd oedd yr enwog Fred Ffransis ac estynwyd croeso gwresog iddo. Mae pawb yn adnabod Ffred Fransis fel Cymro, Cenedlaetholwr a Christion ac un sydd wedi brwydro dros Gymru a’r iaith Gymraeg ers dyddiau Coleg. Mae’r edmygedd ohono’n amlwg gan mae Saesneg oedd iaith yr aelwyd yn Rhyl pan oedd yn blentyn.
    Nid oedd ganddo destun fel y cyfryw ond roedd ei gyflwyniad yn ceisio egluro fel y byddai pobl Cymru 1969 yn edrych ar Gymru 2019, heddiw. Golygai hyn fel y gwelent ddatblygiad yr iaith Gymraeg ym myd addysg, busnes, Llywodraeth, cyhoeddiadau, ffurflenni e.e. y Swyddfa Bost.
    Aeth ymlaen i son am ei ddiddordeb yng ngwlad fel yn yr Aifft, sef Bwrcino Faso. Mae wedi ymweld â’r wlad lawer gwaith i archebu a phrynu crefftau i werthu yn ei fusnes. Mae hefyd weld ymweld â’r wlad fel Cristion, gyda’r Cwmni ‘Coda Ni’.

    Yn dilyn ei gyflwyniad cafwyd sesiwn o holi ac ateb. Yr oedd yn anerchiad gwych a diolchwyd i Ffred gan Verian Williams, a ddisgrifiodd y siaradwr fel un o’i arwyr pennaf.