Skip to content

Hydref 2019

    Cynhaliwyd ail gyfarfod y tymor o Hoelion Wyth Beca ar nos Fercher, Hydref 30ain. Croesawyd pawb ynghyd gan y Cadeirydd Eifion Evans ac yntau gyflwynodd siaradwr gwadd y noson sef Emyr Phillips o Gilgerran.

    Bu Emyr yn siarad am rheilffordd Maenclochog i Abergwaun a dwedodd ei fod wedi dechre ymddiddori ynddo pan yn blentyn. Mae John Gale wedi ysgrifennu tri llyfr diddorol iawn yn olrhain hanes y rheilffordd.

    Agorwyd y rheilffordd oherwydd dylanwad dyn cyfoethog o’r enw Edward Cropper o Gaint. Roedd e’n fasnachwr ac yn gweld budd o gludo nwyddau megis llechi, o’r chwarel yn Rhos y Bwlch, yr holl ffordd ar y rheilffordd i lefydd megis Llundain. Adeiladwyd y rheilffordd o Glunderwen ( Narberth Road ) hyd at Rhos y Bwlch yn wreiddiol, cyn ei ymestyn draw i Abergweun yn ddiweddarach.

    Prynodd Edward Cropper chwarel Rhos y Bwlch yn 1869, dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu’r rheilffordd yn 1873 gan ei gwblhau yn 1875. Dyn o’r enw Joseph Macauley wnaeth  weithredu’r prosiect ac Edward Cropper yn ei ariannu’n gyfangwbwl. Agorwyd y rheilffordd yn swyddogol ar Ionawr 1af 1876 ( gan gludo llechi yn unig am yr wyth mis cyntaf ) ac yna agorwyd i deithwyr ar Medi 19eg yn yr un flwyddyn. Roedd gan Edward Cropper freuddwyd o sefydlu canolfan dwristiaid ym Mro’r Preseli, adeiladodd Westy’r Tafarn Sinc ond buan iawn aeth ei freuddwyd yn ddeilchion.

    Hanes digon cymysglyd sydd i’r rheilffordd, fe’i cauwyd a’i hail agor nifer o weithie cyn cau am y tro olaf yn 1937. Codwyd y trac yn 1952 ac mae injan Margaret i’w gweld o hyd yn Maenordy Scolton.

    Diolchwyd i Emyr am noson ddiddorol tu hwnt gan Eifion Evans ac ategwyd hyn gan Russell Evans. Diolch hefyd i Robert James am baratoi basned o gawl bendigedig yn ôl ei arfer.