Skip to content

Hydref 2018

    Yn dilyn llwyddiant y noson agoriadol o’r tymor fis Fedi,cyfarfu Hoelion 8 Cors Caron ddiwedd Hydref yng Nghlwb Rygbi Tregaron, a hynny am y tro cyntaf erioed yno. Cafwyd croeso tywysogaidd ac unwaith eto gwelwyd cynnydd yn y nifer oedd yn bresennol.Y gwr gwadd oedd Tegwyn Jones, Bow Street – brodor o Ben-Y-Bont, Rhydybeddau’n wreiddiol, ond sy’n adnabyddus  trwy Gymru gyfan fel awdur toreithiog. Ymhlith ei gyhoeddiadau rhagorol mae llyfrau megis ‘Hen Faledi Ffair, ‘Tribannau Morgannwg’ ac ‘Anecdotau llenyddol’ ac ar drywydd yr olaf o’r rhain yr aeth Tegwyn wrth iddo ein diddanu gyda nifer o enghreifftiau gwych o’r anectodau yma. Mae dawn arbennig gan rai pobl I gadw sylw cynulleidfa a’u diddori gan wneud pwnc a fedrai droi’n drwm yn hynod ddiddorol, a dyna wnaeth Tegwyn gyda’i hiwmor iach a’i ddawn dweud stori.

    Yn dilyn cyfnod byr o flwyddyn fel athro cynradd, gweithiodd am flynyddoedd maith yn y Llyfrgell Genedlaethol ar eiriadur Prifysgol Cymru cyn symud drws nesaf i’r Ganolfan Uwchefrydiiau.Mae ei gyfraniad wedi bod yn enfawr I ni fel cenedl. Hedfanodd yr amser yn ei gwmni difyr a ‘melys moes mwy’ oedd barn pawb ar y diwedd.

    Dyma enghraifft o’i feddwl craff ac yn wir anecdot iddo fe ei hunan. Pan ofynwyd iddo os oes llyfr arall ar y gweill, ei ateb oedd ‘Pe bawn i’n cychwyn nofel dyma fyddai’r frawddeg agoriadol’ -Un noson meddai Offa wrth ei wraig, ‘Wyddost ti be’ fory rwy’n mynd I godi wal’

    Ie, noson arall gofiadwy. Diolchwyd I Tegwyn gan ei gyfaill John Watcyn. Y mis nesaf ar Nos Iau,Tachwedd 29ain byddwn yn croesawu Dai Meredith ac yna ‘r noson ganlynol, byddwn yn mynd I Ffostrasol I ymuno a’n ffrindiau’n Genedlaethol a mwynhau cwmni criw ifanc talentog ‘Bois Y Rhedyn’