Skip to content

Hydref 2018

    Yng nghyfarfod mis Hydref, y siaradwraig wadd oedd Einir Jones o Rydaman ac estynnwyd croeso iddi gan y Cadeirydd, Claude James.
    Mae’n gyn-athrawes, yn Brifardd ac yn wraig i’r Parchg. John Talfryn Jones. Mi fyddai Einir yn medru siarad ar lawer pwnc, ond testun ei chyflwyniad i’r Hoelion Wyth oedd ‘Y profiad o fod yn wraig i weinidog’.

    Un o Sir Fôn yw Einir a chyfarfu â’r Parchg. John Talfryn pan oedd y ddau yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor – cwrdd wnaethant yn Festri rhyw gapel a John (sy’n bianydd penigamp) yn gyfeilydd i barti Noson Lawen.
    Cafwyd noson llawn chwerthin wrth wrando arni’n sôn am y straeon difyr wrth ddilyn eu hanes ers cartrefu, yng nghyntaf yn Dinas, Sir Benfro hyd y presennol yn Rhydaman.  Diolchwyd iddi am noson hwylus dros ben, gan Wyn Evans.