Skip to content

Hydref 2018

    Ein siaradwr gwadd am fis Hydref oedd Simon Moffett o Crundale a chroesawyd ef gan Eifion Evans y Cadeirydd.

    Brodor o Sir Buckingham i’w Simon a bu’n fyfyriwr gwyddoniaeth yng ngholeg Prifysgol Yr Iesu, Rhydychen. Tra yno fe gyfarfu a’i ddarpar wraig syn Gymraes. Ers priodi maent wedi byw a magu teulu yn Crundale.  Mae Simon wedi dysgu’r Gymraeg yn dda ac mae’r plant hefyd wedi derbyn addysg Gymraeg.

    Ers ymddeol o swydd wyddonol yn y diwydiant olew mae wedi bod yn weithgar iawn gyda’r grŵp ‘Prostate Wales’,  ac afiechydon dynion oedd pwnc ei gyflwyniad.

    Yn ystod ei gyflwyniad bu’n egluro sut mae rhannau o’r corff dynol yn gweithio drwy gyfrwng lluniau o’r taflunydd.  Pwysleisiodd pa mor bwysig ydyw, i ddynion siarad am unrhyw ofidiau sydd ganddynt ac i  beidio oedi mynd at y meddyg os oes ‘na arwydd o unrhyw broblem.

     

    Dwi’n siŵr ein bod wedi dysgu llawer yn ystod ei gyflwyniad a diolchwyd iddo gan Eifion a Nigel. Ar ddiwedd y noson darparwyd cawl are ein cyfer gan Janice a Paul yn absenoldeb Rob.