Y siaradwr gwâdd yng nghyfarfod mis Hydref oedd Martin Roberts o Groesgoch – mab Y Parchg. John Roberts, Abergwaun ac yn gyn-bennaeth Ysgol Dewi Sant, Tŷ Ddewi. Mae’n aelod o gangen Hoelion Wyth ‘Wes-Wes’ yn ei ardal.
Ers rhyw bum mlynedd mae’n gweithio yng Nghastell Henllys a dyna oedd pwnc ei gyflwyniad, a hynny gyda chymorth lluniau.
Mae Castell Henllys yn denu miloedd o ymwelwyr yn ystod y flwyddyn (26,000 eleni) yn ogystal â 6,000 o blant ysgol a mae hyn yn 30% i fyny ar llynedd.
Mae’n Fryngaer ac yn bentref pwysig iawn yn hanes Cymru – yn 2,500 mlwydd oed.
Pan ddechreuwyd ar y gwaith o greu’r pentref, roedd y safle heb ei gyffwrdd ers 2,000 o flynyddoedd. Mae pob adeilad wedi ei godi yn yr union safle a’r adeiladau gwreiddiol.
Mae’r ymwelwyr yn cael eu tywys o amgylch y pentref gan aelod o’r staff ac mae’r plant yn cael gweithdai, i ddangos fel yr oedd y trigolion cynnar yn adeiladu ac yn byw.
Mae Castell Henllys yn cael archwiliad pob pedair blynedd ac wedi cael ‘Tystysgrif Rhagoriaeth’ ddwy waith.yn olynol.
Cafwyd noson ddifyr, addysgiadol a diolchwyd i Martin am gyflwyniad arbennig gan Mel Jenkins.
Cyn cau’r cyfarfod gwnaethpwyd trefniadau ar gyfer y gyngerdd a gynhelir yn Neuadd y Farchnad, Llanboidy ar Hydref 27ain.