Skip to content

Hydref 2016

    Yng nghyfarfod mis Hydref, y gŵr gwadd odd Bryn Jones (yn wreiddiol o Drimsaran) ond yn awr yn byw yn Llangynnwr, Caerfyrddin. Mae, erbyn hyn, wedi ymddeol ar ôl gyrfa gyda Heddlu Dyfed Powys, lle bu’n gwasanaethu fel Uwch-swyddog yn Aberystwyth a Chaerfyrddin. Ei ddiddordebau mwyaf yw ffotograffiaeth, teithio a gwneud gwaith ymchwil i bynciau sydd o ddiddordeb iddo.

    Darlith oedd ganddo ar Feysydd Glo De Cymru gan ganolbwyntio ar y trychinebau a’r glowyr a gafodd eu lladd yn llawer iawn o’r gweithfeydd hynny. Roedd ganddo luniau o gyfnod canol y 19eg canrif hyd pan gauwyd y pwll olaf ym maes glo y De. “Credwch neu beidio, collodd dros 20,000 o lowyr eu bywydau mewn ffrwydriadau yn ystod yr amser yma, gyda’r un mwyaf enwog yn Senghennydd pan fu farw 438 o lowyr ac un achubwr”.

    Roedd wedi ymweld â phob pwll glo, gan dynnu llun i ddangos ochr yn ochr a’r hen luniau pan oedd y pyllau yn gweithio, a llawer un ar ôl i’r trychinebau ddigwydd, gan nodi sawl glowr gollodd ei fywyd ym mhob pwll.

    Cafwyd darlith wych a oedd yn fodd i agor llygaid a gwerthfawrogi’r peryglon ac amodau gwaith y ‘colier’ ar hyd y degawdau.
    Diolchwyd i Bryn Jones gan Eric Hughes.