Skip to content

Hydref 2016

    Wrth groesawu pawb i’r noson nodwyd ein cydymdeimlwyd a Robert sydd wedi colli ei fam yng nghyfraith.
    Cyflwynwyd y siaradwr gwadd sef Dr Denley Owen, Llanymddyfri drwy ddweud ychydig o’i hanes. Magwyd ef yn ardal Llanglydwen/Cefnpant a chafodd ei addysg Uwchradd yn ysgol Ramadeg Hendy Gwyn ar Daf cyn mynd ymlaen i Brifysgol Abertawe lle wnaeth gwrs doethuriaeth mewn Ffiseg. Bu’n gweithio am ddeg mlynedd gydag Awdurdod Ynni Atomig cyn troi at fod yn athro a dysgu Ffiseg yng Ngholeg Llanymddyfri. Mae hefyd wedi bod yn Gynghorydd Sir yn Sir Gaerfyrddin.
    Ers ymddeol o ddysgu mae wedi diddori mewn hanes ei ardal enedigol ac mae wedi ysgrifennu’r llyfrau, Powell Maesgwynne (2012), Taf Valley Lives (2015) a llyfr sydd newydd gael ei lawnsio; Llanboidy – model bentref, cymynrodd Powell bach.
    Testun ei gyflwyniad drwy gyfrwng sgwrs a sleidiau oedd cynnwys ei lyfr Taf Valley Lives. Wrth edrych ar y lluniau daeth sawl atgof i ni gyd o bobol gyfarwydd ac fe’m hatgoffwyd am yr hen ffordd o fyw.
    Fe wnaeth Eurfyl ddiolch i Denley am y cyflwyniad ac hefyd mynegodd y pleser a gafodd o gael adnabod Heywood, tad Denley, a fu’n gymydog iddo. Diolchwyd i staff y caffi am baratoi cawl ar ein cyfer yn absenoldeb Robert.

     

    denleyowen-1