Skip to content

Hydref 2015

    Gŵr gwâdd cyfarfod Mis Hydref oedd un o aelodau’r gangen sef Mr Cynwil Davies o Bwlltrap. Treuliodd Cynwil a’i briod Eilir rhai wythnosau yn Seland Newydd gydai’i mab y Dr. Ieuan Davies sydd yn gweithio am gyfnod o dair blynedd yn Ynys y De a lle bu Cynwil ei hun yn gweithio i’r Bwrdd Marchnata Llaeth yn y 70au.

    Yn ogystal ac aros gyda Ieuan fe wnaethant logi ‘motorhome’ moethus a bu’r tri ohonynt yn teithio’n helaeth o amgylch ynysoedd y De a’r Gogledd. Trwy gyfrwng lluniau a chyflwyniad llafar cawsom olwg manwl o dirwedd, golygfeydd a bywyd y wlad. Cafwyd noson ddiddorol dros ben a diolchwyd i Cynwil gan Eric Hughes.

    Gwnaethpwyd trefniadau terfynol ar gyfer ein cyngerdd ar Hydref 23ain yn Neuadd y Farchnad, Llanboidy.