Skip to content

Hydref 2014

    Cynhaliwyd ail gyfarfod y tymor o Hoelion Wyth cangen Beca yng nghaffi Beca, Efailwen ar nos Fercher, Hydref 29ain. Cafwyd gair o groeso gan Eurfyl Lewis ( yn absenoldeb y cadeirydd Nigel Vaughan) cyn iddo gyflwyno a croesawu gŵr gwadd y noson sef Meurig James o Hendy Gwyn. Bu Meurig yn sôn am ei waith fel aseswr gwartheg pedigri, swydd sydd yn amlwg yn rhoi pleser mawr iddo. Esboniodd yn fanwl beth yw ei gyfrifoldebau o ddydd i ddydd yn ogystal a’r holl deithio mae wedi gwneud yn rhinwedd ei swydd. Mae wedi ymweld a nifer fawr o wledydd ar draws y byd ac wedi gwneud ffrindiau ymhobman. Cafwyd noson ddiddorol iawn yn ei gwmni a diolchwyd i Meurig gan Gareth Griffiths. Roedd Robert wedi paratoi cawl bendigedig i bawb yn ol ei arfer, diolch Rob!

    Img_4170Meurig James gyda Eurfyl Lewis, Ken Thomas a Gareth Griffiths