Cynhaliwyd cyfarfod Mis Hydref fel arfer yn lolfa Clwb Rygbi Hendygwyn. Croesaodd a chyflwynodd y cadeirydd Wyn Evans y siaradwr gwâdd am y noson sef Mr Evan R Thomas o Lanybri yn ogystal a’i frawd Tom a ddaeth yn gwmni iddo. Ffermwr yw Evan Thomas ond mae hefyd wedi bod yn flaenllaw, fel y dywedodd ei hun, yng ngwleidyddiaeth y diwydiant. Yn perthyn i Undeb Amaethwyr Cymru ers blynyddoedd maith yr oedd ar un adeg yn lais cyfarwydd ar y cyfryngau yn siarad am faterion llosg y dydd yn ymwneud ag amaeth.
Cafwyd noson ddiddorol ganddo, yn llawn hiwmor pan fu’n sôn am ddatblygiad amaethyddiaeth o amser ei blentyndod hyd heddiw gan gyfeirio at y tir, nifer yr anifeiliaid yn enwedig gwartheg godro ac hefyd fel mae peiriannau a thractorau wedi newid ar hyd y blynyddoedd. Hefyd roedd ganddo luniau o wahanol gyfnodau yn ystod ei yrfa. Diolchwyd iddo am noson ddifyr dros ben gan Eric Hughes.