Skip to content

Hydref 2013

    Cynhaliwyd ail gyfarfod y tymor o Hoelion Wyth Beca, yng Nghaffi Beca Efailwen, nos Fercher 30ain o Hydref. Yn absenoldeb y cadeirydd, Nigel Vaughan, croesawyd pawb yno gan y trysorydd, Ken Thomas, cyn iddo groesawu y Gwr Gwadd sef Anthony Thomas (Pant) Drefach, Meidrim. Cafwyd noson tu hwnt o ddiddorol yn ei gwmni, wrth iddo son am broblemau clefyd y siwgwr, a sut y bu iddo yntau ymdopi ar ol y profiad amhleserus o golli ei goes o dan y benglyn, ond o’r funud y gwelodd e’r meddyg hyd at y trychiad (amputation) cafodd e ddim llawer o amser i bendroni dros y peth, am fod y cyfan drosodd mewn bach o amser, a da o beth oedd ei weld yn edrych cystal ar ol y profiad, ond fel y dywedodd yr oedd yn benderfynol o wella. Noson i’w chofio. Cafwyd gair o ddiolch gan y Parchg Emyr Thomas, ac yna cafwyd basned o gawl bendigedig fel arfer wedi ei baratoi gan Rob. Diolch Rob unwaith eto.