Skip to content

Hydref 2013

    Croesawodd y Cadeirydd, Eric Hughes, y siaradwr gwâdd am y noson, sef Mr. Frank Barnett o Drelech. Cafwyd ei hanes o’r amser y daeth i lawr o Lundain fel ifaciwi, gyda’i frawd, ar y tren i Gaerfyrddin; yna dal y bws coch a newidiodd ei fywyd yn gyfangwbl ar ôl cyrraedd Trelech. Cafodd sut groeso gan deulu Clun a’i gymryd fel mab iddynt; drwy ganlyniad i hyn, nid oedd am fynd nôl i Lundain. Dysgodd Gymraeg yn drylwyr, priodi merch o’r ardal ac mae’n dal i fyw yn Nhrelech hyd y dydd heddiw. Diolchwyd iddo ar y diwedd gan Mr. Malcolm Jones. Cafwyd pwyllgor i sefydlu swyddogion:- Cadeirydd – Mr. Wyn Evans. Is-Gadeirydd – Mr. Myrddin Parry. Trysorydd – Mr. Dewi James. Ysgrifennydd – Mr. Anthony Thomas Swyddog Adloniant – Mr. Mel Jenkins Penderfynwyd rhoi £250 i Bapur Llafar y Deillion; £250 i Ymchwil Cancr (Prostate) a £50 i’r Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli, 2014.