Skip to content

Hydref 2011

    Cynhaliwyd ail gyfarfod y tymor o Hoelion Wyth cangen Beca yng nghaffi Beca, Efailwen ar nos Fercher, Hydref 26ain. Cafwyd gair o groeso gan y cadeirydd Lynn Howells cyn iddo groesawu gwr gwadd y noson sef Chris Jones o Gaerdydd. Mae Chris yn wyneb cyfarwydd ar S4C fel dyn y tywydd a bu’n son am ei yrfa yn darogan y tywydd ac hefyd yn esbonio sut mae’r tywydd mor gyfnewidiol yma yng Nghymru. Bu hefyd yn son am y daith gerdded wnaeth gyflawni ym Mheriw er budd ysbyty Felindre yn ddiweddar a cyflwynwyd rhodd tuag at yr elusen. Cafwyd noson hynod ddiddorol yn ei gwmni a diolchwyd iddo gan Huw Griffiths. Diolch i Robert am weini cawl blasus i ni yn ol ei arfer – bendigedig! Dudley ar Daith Cafwyd noson wahanol i’r arfer ar nos Lun, Tachwedd 7fed pan wnaeth y cogydd enwog sef Dudley Newbury ymweld a chaffi Beca. Bu’n esbonio i’r ddau frawd Tudur ac Eurfyl Lewis sut i baratoi pryd dau gwrs a’r her iddynt hwythau wedyn oedd i geisio cofio ei gyfarwyddiadau ac i baratoi swper dau gwrs i 11 o aelodau Hoelion Wyth Beca ( yr enwau wedi eu tynnu o het ). A wnaeth u ddau frawd lwyddo? Sut siap oedd ar eu coginio? Sut flas oedd ar y bwyd? I gael yr atebion holwch yr aelodau neu gwyliwch rhaglen Dudley ar Daith ar S4C ym mis Ionawr a Chwefror!

    208wdhx
    Aelodau’r gangen gyda Dudley yn mwynhau’r bwyd