Skip to content

Hydref 2010

    Cynhaliwyd ail gyfarfod o’r tymor yng nghaffi Beca ar nos Fercher, Hydref 27ain. Cafwyd gair o groeso gan y cadeirydd Gareth Griffiths cyn cyflwyno gwr gwâdd y noson sef y Prifardd Idris Reynolds o Rhydlewis. Cawsom ddarlith coffa gwych i’r diweddar Dic Jones (Dic yr Hendre) a talodd deyrnged uchel i’w gyfaill annwyl. Diolchwyd iddo’n ddiffuant am noson fendigedig gan Eurfyl Lewis. Cwis Wes Glei Menter Iaith Sir Benfro Cynhaliwyd cwis Wes Glei Menter Iaith Sir Benfro yng nghlwb rygbi Crymych ar nos Iau, Hydref 14eg. Bu 11 tîm yn cystadlu ac mae’n braf i gyhoeddi taw tîm Hoelion Wyth Beca ddaeth i’r brig eleni. Llongyfarchiadau i Gareth Griffiths, Robert James, Eurfyl Lewis a Nigel Vaughan ar eu llwyddiant. Un o gymwynasau mawr W.R. oedd ffurfio parti noson lawen Bois y Frenni yn ystod dyddiau tywyll yr Ail Ryfel Byd gyda’r bwriad o godi calonnau pobl gyffredin mewn cyfnod diflas. Cynhaliodd Bois y Frenni dros 2,000 o gyngherddau ar hyd a lled Cymru yn ogystal â 50 o ddarllediadau BBC cyn i W.R.symud i’r Barri. Cynhaliwyd noson gymdeithasol yng nghaffi Beca ar nos Wener, Tachwedd 12fed i nodi canmlwyddiant geni W.R. a saith deg mlynedd ers iddo sefydlu’r parti. Cafwyd gair o groeso gan Ken Thomas cyn trosglwyddo’r noson i ofal Cerwyn Davies, Fferm y Capel, Mynachlogddu (perthynas i W.R.) a Bois y Frenni. Bu Cerwyn yn olrhain hanes bywyd W.R. ac yn canolbwyntio’n benodol ar gyfnodau pwysig yn ystod ei fywyd. Un o’r cyfnodau hynny wrth gwrs oedd ei apwyntio’n brifathro ar ysgol gynradd Bwlchygroes, dyma pryd sefydlodd Aelwyd yr Urdd Bwlchygroes a Bois y Frenni. Byddai’n destun balchder iddo i ddeall fod Bois y Frenni’n dal i ddiddori cynulleidfaoedd hyd heddiw ac yn canu’r union ganeuon gyfansoddwyd ganddo flynyddoedd maith yn ôl. Mynegodd Peter John ei falchder bod cymaint o ieuenctid wedi ymuno â’r parti yn ystod y cyfnod diweddar. Cafwyd noson hwylus dros ben yn eu cwmni a diolchodd Ken Thomas i Cerwyn Davies, Bois y Frenni, Wendy Lewis y cyfeilydd, Robert James a’i staff am y bwffe bendigedig ac i bawb am gefnogi.

    35i0z5sBois y Frenni yn diddori’r gynulleidfa yn y noson gymdeithasol i gofio W. R.