Skip to content

Hydref 2008

    Cynhaliwyd cyfarfod cynta’r tymor o Hoelion Wyth cangen Beca yng nghaffi Beca, Efailwen ar nos Fercher, Medi 24ain. Cafwyd gair o groeso gan y Cadeirydd Robert James cyn iddo groesawu gŵr gwâdd y noson sef y Parchedig Gynghorydd Huw George. Bu Huw yn sôn am y bobl fu’n ddylanwad mawr ar ei fywyd ac yn eu plith a’r dylanwad mwyaf oedd y diweddar Barchedig Elfed Lewys. Bu hefyd yn sôn am y galwadau sydd arno fel gweinidog ac yn arbennig felly yng ngyd destun priodasau ac angladdau a cafwyd noson llawn hiwmor yn ei gwmni. Diolchwyd i Huw am noson hyfryd gan Huw Griffiths.