Skip to content

Hydref 2007

    Cynhaliwyd gweithdy hen greiriau i gychwyn tymor arall yn hanes Hoelion Wyth cangen Beca ar nos Fercher, Medi 26ain. Roedd yn agored i bawb a croesawyd aelodau’r Hoelion yn ogystal ag aelodau o ganghennau Merched y Wawr Beca a Maenclochog gan y Cadeirydd Robert James. Estynodd groeso arbennig i’r gwr gwadd sef y Parch Felix Aubel o Drelech ac roedd pawb yn synnu at y wybodaeth helaeth oedd ganddo am bob math o lestri ac hen greiriau. Cafwyd araith ddiddorol ganddo cyn mynd ati i roi hanes a phrisio yr amrywiaeth o greiriau oedd wedi eu cyflwyno at ei sylw. Enillwyd y raffl gan Teifion a Beryl John a bu pawb yn mwynhau lluniaeth hyfryd oedd wedi ei baratoi gan Robert a’i staff. Diolchodd Robert i Felix Aubel am noson wych, i Milltir Sgwar ( Antur Teifi ) am noddi’r noson ac i Eurfyl am wneud y trefniadau. Diolchodd Mary Llewellyn ar ran cangen Beca a Beryl John ar ran cangen Maenclochog am noson arbennig.