Skip to content

Hydref 2006

    Hoffem ddiolch yn fawr i Mr Ronnie Howells am drefnu’r ‘Daith Ddirgel’ i gloi’r tymor ym mis Mai. Bu’r aelodau yn ymweld a’r Bad Achub newydd yn Dinbych-y-Pysgod. Roedd yn noson braf o wanwyn ac fe ddysgwyd llawer wrth gael hanes y Cwch a’r gwaith pwysig a gyflawnir gan y criw wrth achub bywydau allan ar y môr. I orffen y noson cafwyd pryd o fwyd blasus yn y Begelly Arma. I agor y tymor newydd ym mis Medi, croesawodd y Cadeirydd, Mr Vernon Williams, Y Parchg. Huw George i’n didddanu. Cafwyd hwyl wrth wrando arno’n adrodd storiau a’r digwyddiadau mwyaf doniol a ddaeth ar eu traws mewn angladdau. Er fod y testun yn un difrifol, bu llawer iawn o chwerthin. Diolchwyd iddo gan Mr Ronnie Howells. Mis Hydref cafodd yr aelodau wahoddiad twymgalon gan Gadeirydd y Cyngor, Mr Roy Llewellyn a’i wraig Rhoswen, i ymweld â’r Siamber yng Nghaerfyrddin. Wedi tynnu lluniau cawsom grynodeb o waith y Cadeirydd. Roedd bwffe wedi ei baratoi a hoffem ddioch o galon i’r ddau am gael amser i ymlacio yn eu cwmni. Diolchodd Mr Vernon Williams iddynt ar derfyn y noson.