Skip to content

Hoelion Wyth Beca – Cyfarfod mis Tachwedd 2021

    Cyfarfu aelodau Hoelion Wyth Beca, yn ol ein harfer yng Nghaffi Beca, Efailwen, a hynny ar nos Fercher, Tachwedd 24ain.

    Ein gwr gwadd oedd y Parchedig Tom Evans, Peniel ac estynodd Eifion Evans, y Cadeirydd, groeso cynnes iddo. Ma Tom wedi cael gyrfa ddiddorol a llwyddiannus – bu’n weinidog, gweitho i Gymorth Cristnogol, darlithio yn y Drindod yng Nghaerfyrddin, cynhyrchu rhaglenni crefyddol ar gyfer Radio Cymru ac yn fwy diweddar, yn gwirfoddoli fel caplan gyda Heddlu Dyfed Powys.

    Cawsom hanes ei fagwrfa ym mhentre Betws Bledrws yng Ngheredigion, yn ogystal a’r swyddi amrywiol roedd wedi eu cyflawni dros y blynyddoedd. Canolbwyntiodd Tom yn benodol ar y naw mlynedd diwethaf, sef y cyfnod bu’n gwasanaethu fel caplan i’r heddlu. Pwrpas ei rol fel caplan oedd bod yn gefn i swyddogion yr heddlu ac i’w cynorthwyo drwy gyfnode anodd. Daeth yn amlwg yn fuan iawn, fod Tom wedi cael pleser mawr o weithredu fel caplan, er gwaetha nifer o achosion trist a dirdynnol wnaeth effeithio’n fawr ar swyddogion Heddlu Dyfed Powys. Soniodd yn benodol am ddiflaniad April Jones ym Machynlleth, ac am yr effaith ofnadwy cafodd ei llofruddiaeth erchyll, ar aelode’r Llu. Soniodd hefyd am y tan erchyll yn Llangammarch ym Mhowys, gymrodd fywydau tad a 5 o blant. Effeithiodd hyn hefyd yn fawr iawn ar swyddogion yr heddlu a bu galw mawr am wasanaeth Tom i’w cynorthwyo drwy gyfnod anodd tu hwnt.

    Diolchodd Eifion, yn ddiffuant i Tom, am noson wirioneddol wych a bu pawb yn cymdeithasu ymhellach wrth fwynhau basned o gawl. Diolch o galon i Robert am yr arlwy ac am ei groeso arferol, gwerthfawrogwn y cyfan yn fawr iawn.