Skip to content

Hydref 2006

    Dechreuwyd y tymor mewn steil eleni. Shwt a Ble? Fe gawsom wahoddiad gan Y Cynghorwr Roy Llewellyn a’i wraig, Rhoswen, i Siambar y Cyngor Sir yng Nghaerfyrddin lle mae’n Gadeirydd am y flwyddyn. Mae dyn yn dueddol o farnu a phardduo’r Cyngor a’r Cynghorwyr pan na fydd pethau wrth ein bodd ni – a da o beth yw hynny ar adegau, ond yn ystod yr ymweliad hwn, mae’n amlwg nad yw’n ‘fêl i gyd’ pan yw’n Gyfraith. Cafodd ffrind annwyl y ddau, sef ein haelod ‘Huw’ groeso unigryw a roedd y wên ar ei wyneb yn dweud cyfrolau! Dau beth, o ganlyniad ein hymweliad, yw nodi fod Roy yn cynnal yr holl wasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg, nid camp rhwydd ond mae i’w edmygu am ei ddycnwch. Fel dywedodd un o’r aelodau, “Na mesur y boi i ti, bachan o’r wlad yn estyn gwahoddiad a chroeso i fois y wlad a’i fro” Mae wedi bod yn flwyddyn brysur i’r ddau eleni – Rhoswen a’r Orsedd a’r ddau wrth waith y Cyngor. Gadeirio Gynghorydd a’i Gymar – Cadwynog I bethau eu bro gynnar, Trwy eu dycnwch a darpar Eu gwobr – eleni blwydd liwgar. Diolchwyd, ar ran y Gangen, gan Huw ac fel arwydd o’r ymweliad, llofnodwyd y llyfr gan y Cadeirydd, Robert James.