Skip to content

Hanes Y Caban, Aberporth

    Ym 1940, roedd tua 400 o filwyr wedi eu lleoli yn Aber-porth, ac yn lletya yng nghartrefi’r pentrefwyr a’r cerbydau rheilffordd lleol. Roedd y milwyr yn cael eu bwyd yn y Coronation Hall, ond roedd pethau eraill ar gael iddynt yn y NAAFI. Yn Aber-porth, roedd y NAAFI mewn dau gwt wedi eu lleoli yn union y tu ôl i neuadd y pentre, a’r tu ôl i
    safle garej Johnny Evans… sef lle mae’r Caban erbyn heddiw. Pan sefydlwyd gwersyll milwrol ym Mharc-llyn, aeth y milwyr oddi yno gan adael y ddau gwt i sefyll y tu ôl i’r neuadd.

    Wedi’r Rhyfel, daeth y Parchedig Tegryn Davies a’i wraig Mrs Tegryn Davies i Aber-porth a sefydlu Aelwyd yr Urdd. Roedden nhw’n defnyddio’r cytiau hyn i gynnal cyfarfodydd, ac adeiladwyd bloc toiledau drws nesa. Cawson nhw drwydded hefyd i gadw chwe charafàn gerllaw er mwyn creu incwm ychwanegol i’r Aelwyd. Perswadiwyd Johnny Evans, perchennog y garej, i roi darn o dir fel bod mynediad i’r Caban o’r brif heol.

    Ynghanol y pumdegau, addaswyd un o’r cytiau i fod yn weithdy gyda pheiriant trin coed ac offer eraill, lle byddai Oswyn Harris yn cynnal dosbarthiadau gwaith coed. Gan fod y cytiau gwreiddiol bellach yn rhy fach i’r
    Aelwyd, llwyddodd Gerwyn Richards i gael hyd i gwt mwy o faint yr oedd yr MOD ar fin ei daflu. Dyma fu cartref yr Aelwyd am rai blynyddoedd.

    Pan ddaeth yr Aelwyd i ben, trosglwyddwyd yr adeiladau i’r Urdd. Fe’u hadnewyddwyd, gan roi gwelyau a chegin i’w defnyddio gan aelodau’r Urdd fel hostel, pan fydden nhw’n cerdded ar hyd yr arfordir. Pharodd hynny ddim yn hir, a phrin i’r adeilad gael ei ddefnyddio at y diben hwn.

    Yn y saithdegau, daeth cymdeithas yr Hoelion Wyth (cymdeithas Gymraeg i ddynion y pentre) i fod, ac roedden nhw’n ymddiddori yng ngweithgareddau’r pentref. Cawson nhw ar ddeall fod yr Urdd yn bwriadu gwerthu’r eiddo i ddatblygwr. Cynhaliwyd cyfarfod gyda’r Urdd gan ddwyn perswâd arnyn nhw i roi’r eiddo yn ôl i’r pentref. Felly,
    trosglwyddwyd yr eiddo i Bwyllgor y Caban ar les can mlynedd. Ymhen ychydig, daeth yr adeilad yn gartref i’r Ysgol Feithrin a oedd newydd ei sefydlu. Bu’n rhaid cael hyd i arian i gynnal a chadw’r adeilad a’i adnewyddu dros y blynyddoedd. Erbyn hyn, mae gennym adeilad cadarn wedi’i wneud o frics yng nghalon y pentre. Rhaid talu teyrnged i Gwynfor Harris ac Oliver Davies am eu gwaith o’r dechrau’n deg.

    Erbyn heddiw, mae’r safle wedi ei werthu gan yr Urdd i Adran Addysg y Cyngor Sir, ac
    mae’r les wedi ei rhannu rhwng y Cyngor a Phwyllgor y Caban.
    >
    >John Davies
    >Trysorydd Pwyllgor y Caban