Skip to content

Gwerthu gwin er budd ysgol ym Mhatagonia

    Clare Vaughan, Cadeirydd Ysgol Gymraeg yr Andes yn derbyn y siec am £5000 yn y Talbot, Tregaron

    Mae criw o aelodau o gymdeithas yr Hoelion Wyth yng ngorllewin Cymru wedi codi tua £5,000 at goffrau Ysgol Gymraeg newydd ym Mhatagonia drwy werthu gwin.

    Fe wnaethant gyflwyno’r siec i gadeirydd ymddiriedolwyr Ysgol y Cwm, sef Clare Vaughan, yng ngwesty’r Talbot yn Nhregaron ar ddydd Llun, Ionawr 9.

    Ers rhai wythnosau bellach, mae aelodau’r mudiad wedi llwyddo i werthu 2,500 o boteli o win coch Malbec o Batagonia yng Nghymru.

    Yn ystod y cyflwyniad esboniodd John Watkin, sy’n ysgrifennydd cangen cymdeithas yr Hoelion Wyth Cors Caron iddynt gael y syniad yn dilyn ymweliad rhai o’r aelodau ag Ysgol y Cwm yn Nhrevelin.

    “Mi welon ni’r adeilad newydd, a gweld hefyd bod tipyn o waith i’w wneud arno,” meddai John Watkin. “Meddylion ni wedyn y byddwn ni’n ceisio gwneud rhywbeth i helpu, ac mi gawson ni’r syniad i werthu’r gwin Malbec am ei fod yn gynnyrch arbennig i Batagonia.”

    Ysgol y Cwm

    Cafodd Ysgol y Cwm ei hagor yn Mawrth 2016 ac mae’n darparu addysg ar gyfer hanner cant o ddisgyblion gyda lle i 200 yn yr ysgol.

    Dyma’r drydedd ysgol ddwyieithog Gymraeg a Sbaeneg yn y Wladfa, ac mae wedi ei lleoli yn Nhrevelin wrth droed mynyddoedd yr Andes.

     

    John Davies yn cyflwyno’r siec i Clare Vaughan                            Sampl gwerth ei flasu!                             Criw o’r Hoelion tuallan i’r Talbot