Skip to content

Gorffenaf 2009

    Cyfarfu nifer o’r aelodau gyda rhai o’r gwragedd, yng ngardd Mr David a June Phillips, Brick House, Talacharn ar Nos Wener, Mehefin 26. Gwelwyd y gwaith gwych a wnaed yn yr ardd a chafwyd pleser wrth grwydro o amgylch ac edmygu’r cyfan. Yna cafwyd cwpaned o de a chacennau cyn i’r Cadeirydd, Mr Verian Williams drosglwyddo siec o £150 tuag at Uned Chemotherapi yn Ysbyty Glangwili. Bu’n noson hyfryd ac roedd y tywydd yn rhagorol.

    34exapy
    Dyma lun o’r cwmni lawr yng Ngerddi Brick House, Cross Inn, Talacharn gyda Mr. Verian Williams yn cyflwyno’r siec.