Skip to content

Eisteddfod Hoelion Wyth 2014

    HOELION WYTH –Adroddiad Eisteddfod

    Eisteddfod Ffug. Tro Cangen Hendygwyn oedd cynnal yr Eisteddfod eleni ar ar Nos Wener, Mawrth 7fed, fe’i cynhaliwyd yng Nghlwb Rygbi Hendygwyn.

    Gan fod Anthony Thomas (Cadeirydd Cymdeithas yr Hoelion Wyth) yn yr ysbyty yn cael llawdriniaeth, llywyddwyd y noson gan Verian Williams. Dymunodd yn dda i Anthony cyn croesawu aelodau y pedair cangen a ddaeth ynghyd i gystadlu; hefyd y beirniaid, sef Iola Wyn o San Cler ac Elonwy Phillips o Hendygwyn.

    Yr eitemau llwyfan oedd – dweud jôc; deuawd ddoniol agored; darllen darn heb atalnodau; Côr yn canu Gee geffyl bach’

    Roedd cystadlu mawr wedi bod ar yr eitemau llenyddol – sef Brawddeg ar y gair HENDYGWYN; Limrig yn cynnwys y llinell “Hen ferch fu Hefina erioed”; Brysneges ar y llythyren C (dim mwy na 12 gair)) Telyneg ar y testun ‘DRWS’ ; Creu Tair Dihareb Fodern;
    Cerdd Ddigri ‘Torri’r Gyfraith’.

    Roedd seremoni’r Cadeirio a’r Coroni dan ofal aelodau Cangen Beca a Banc Sion Cwilt. Canwyd y Corn Gwlad gan aelod o Banc Sion Cwilt.

    Enillwyd y Goron gan Eurfyl Lewis, Cangen Beca (am y Limrig) ac aeth Cadair yr Eisteddfod i John Arfon Jones o gangen Hendygwyn (am y Delyneg) (gweler y lluniau).

    Y marciau terfynnol ar ddiwedd y noson oedd:-
    Banc Sion Cwilt a changen Caron – 27 yr un; Beca – 35; Hendygwyn – 43. (enillwyr eleni)
    Cyflwynwyd TLWS yr Eisteddfod i Myrddin Parry (yn absenoldeb Wyn Evans, y Cadeirydd) gan Calvin Griffiths (Is-Gadeirydd Cenedlaethol) a derbyniodd cangen Hendygwyn TLWS Cangen Beca; derbyniodd Clive Edwards o gangen Hendygwyn y TLWS am y perfformiad gorau ar y llwyfan.

    Gwnaed y diolchiadau gan Calvin Griffiths – am noson hwylus, i’r merched am y cawl a gafwyd hanner-amser ac i Glwb Rygbi Hendygwyn am gael cynnal yr Eisteddfod mewn lle hwylus a digon o le. Llongyfarchwyd aelodau cangen Hendygwyn am ennill y marciau uchaf. Gorffennwyd y noson trwy ganu Hen Wlad fy Nhadau o dan arweiniad Huw Griffiths, Cangen Beca.

    Canlyniadau Llwyfan

    Dweud Joc
    1. Hywel Lloyd, Sion Cwilt
    2. Lyn Ebeneser, Cors Caron
    3. Eurfyl Lewis, Beca
    3. Clive Edwards, Hendy Gwyn

    Deuawd Ddoniol
    1. Eurfyl Lewis a Meredydd Richards, Beca
    2. Clive Edwards a Ronnie Howells, Hendy Gwyn
    3. Vaughan Evans a, Cors Caron
    3.Calfin Griffiths ac Iwan Evans, Sion Cwilt

    Darllen darn heb atalnodi
    1. John Jones, Cors Caron
    2. Cynwyl Davies, Hendy Gwyn
    3. Elfed Howells, Sion Cwilt

    Cor
    1. Hendy Gwyn
    2. Sion Cwilt
    3. Cors Caron

    Canlyniadau Llenyddol
    Brawddeg
    1. John Arfon, Hendy Gwyn
    2. Eurfyl Lewis, Beca
    3. Meredydd Richards, Beca

    Limrig
    1. Eurfyl Lewis, Beca
    2. John Arfon, Hendy Gwyn
    3. Meredydd Richards, Beca

    Brysneges
    1. John Arfon, Hendy Gwyn
    2. Meredydd Richards, Beca
    3. John Arfon, Hendy Gwyn

    Telyneg
    1. John Arfon, Hendy Gwyn
    2. John Arfon, Hendy Gwyn
    3. Eurfyl Lewis, Beca

    Tair Dihareb Fodern
    1. .John Arfon, Hendy Gwyn.
    2. charles arch, Cors Caron
    3. John Arfon, Hendy Gwyn

    Cerdd Ddigri
    1. Eurfyl Lewis, Beca
    2. Ken Lewis, Sion Cwilt
    3. John Arfon, Hendy Gwyn

    0711

    0716

    0713

    0712