Skip to content

Eisteddfod Hoelion Wyth 2007

    Cynhaliwyd yr Eisteddfod yng nghaffi Beca, Efailwen ar nos Wener, Mawrth 2il. Y beirniaid oedd Peter John, Crymych a Geraint Jones, Pontyglasier a chafwyd noson hwylus yn eu cwmni a chystadlu brwd rhwng canghennau Beca, Hendy Gwyn, Sion Cwilt a Wes Wes. Croesawyd y beirniaid a’r canghennau gan gadeirydd cangen Beca sef Robert James ac arweiniwyd y noson yn hwylus gan Eifion Evans. Cyflwynwyd Tlws Beca i’r gangen a fwyaf o bwyntiau yng nghystadlaethau llwyfan i gangen Beca a cyflwynwyd Tlws yr Eisteddfod i’r gangen sydd wedi ennill y pwyntiau uchaf hefyd i gangen Beca. Enillwyd y gadair am ysgrifennu cerdd ddigri gan Eurfyl Lewis, Beca a’r goron am ysgrifennu telyneg gan John Arfon Jones, Hendy Gwyn – llongyfarchiadau mawr i’r ddau ar eu llwyddiant. Diolchwyd i Peter a Geraint am eu gwaith, i Robert James am ddarparu cawl blasus ac am gael cynnal yr Eisteddfod yn y caffi ac i bob cangen am gefnogi eleni eto. Dyma’r canlyniadau :- Dweud Jôc 1. Byron Reynolds, Wes Wes 2. Maldwyn Griffiths, Sion Cwilt 3. Hywel Llewellyn, Beca Cân Actol neu Ddoniol 1. Beca 2. Wes Wes 3. Sion Cwilt Sgets 1. Beca 2. Sion Cwilt 3. Hendy Gwyn 3. Wes Wes Côr 1. Beca 2. Hendy Gwyn 3. Sion Cwilt 3. Wes Wes Brawddeg 1. Mel Jenkins, Hendy Gwyn 2. Geraint Evans, Wes Wes 3. Eurfyl Lewis, Beca Limrig 1. Verian Williams, Hendy Gwyn 2. John Arfon Jones, Hendy Gwyn 3. Mel Jenkins, Hendy Gwyn Hysbyseb i Bapur Bro 1. Meredydd Richards, Beca 2. Elfed Howells, Sion Cwilt 3. John Arfon Jones, Hendy Gwyn Telyneg 1. John Arfon Jones, Hendy Gwyn 2. Calvin Griffiths, Sion Cwilt 3. Eurfyl Lewis, Beca 3. Iori Evans, Sion Cwilt Cerdd Ddigri 1. Eurfyl Lewis, Beca 2. Ken Thomas, Beca 3. Wyn Evans, Beca Dyma ddetholiad o’r gwaith buddugol :- Brawddeg o’r gair GWAREDWR Gwrandewch wleidyddion ar rinweddau efengyl Duw wrth reoli. Limrig Ar fore dydd Calan eleni, Pan fyddwch yn yfed eich coffi, Er mwyn chwarae teg, Wrth roi yn eich ceg, Cofiwch sut gafodd ei dyfu. Hysbyseb i Bapur Bro Dyn deallus deugain dibriod, diddan diduedd deheuig digrif dawnus, dim dannedd dodi. Diddordeb? Dewch, dewiswch, disgrifiwch, disgwyliaf. Derbyniaf decst : dim deunaw deugain dwsin deg dim dim. Diolch. Telyneg : Llygaid Cael gweled yn yr albwm, Hynafiaid ‘roes a fu, Ei fam a’i dad, ei frawd a’i chwaer; Atgofion ddaeth yn llu. Cofio y dyddiau dedwydd Yr hen amseroedd gynt, A chael ail gerdded llwybrau Fu’n crwydro ar ei hynt. Gweld ffilm o ddydd ei briodas, Y ddau yn wên i gyd, Ca’dd gymar am flynyddoedd Yr orau yn y byd. Darluniau’r plant yn ifanc Ac yna’n tyfu’n fwy, Lluniau o ddydd ei graddio, A’u priodasau hwy. Gweld salwch creulon cancr Yn lleddfu’i annwyl wraig, Ei olwg mwy ar deulu hoff A hwythau iddo’n graig. Rhyw ffrwydriad erchyll ddaeth i’w ran Pan fu’n y ddinas fawr, A dwylo bach ei wyrion hoff, Sydd yn lygaid iddo nawr. Cerdd ddigri Y Ffermwr Fe welodd hwn un diwrnod, arwydd “Pigs for Sale”, ‘Da Bourcier ei gymydog, aeth draw i daro dêl. Esboniodd hithe’n gryno, fod angen cartref iach, Ar Babe ei hwch annwylaf, a Floyd y mochyn bach. Ni ddeallodd ef yn gwmws, ganllawie’r Saesnes gwiw, Ond nododd yn ddeallus, er fod e drwm ei glyw! Rhoes alwad ffón i Dilwyn, y bwtshwr lan yn dre, “Cer lawr ar ddou i’r lladd dy, i Hwlffordd”, medde fe. ‘Rol llenwi’r holl bapure, cael popeth nawr mewn trefn, Fe roddwyd y ddau borcyn i eistedd yn y cefn. Aeth Pic i ffwrdd yn llawen, yng nghwmni Babe a Floyd, Anelodd tua Hwlffordd, a hynny yn ddi oed. Daeth pall i’w rhochian swnllyd, fe’i lladdwyd yn y man, A llwythwyd y ddau garcas, yn barchus mewn i’r fan. Aeth Pic am Aberteifi ar porcwn wedi’r “kill”, Ac am ei drafferth cafodd, darn braf o gig da Dil. Aeth nôl at ei gymydog, gwaith papur yn ei le, “They’re happy now Miss Bourcier”, na gyd ddywedodd e. Mae’n caru pob creadur, nid yw yn bwyta cig, Wrth ddarllen y darn papur, y Saesnes aeth yn ddig. “Oh Picton, Oh Picton,” hi sgrechodd yn groch, “Please tell me my neighbour, where are my dear moch, You promised this morning to make them feel homely, So bring them back quickly – I’m feeling so lonely.” “Miss Bourcier, Miss Bourcier, I can’t bring them back, I’m not a faith healer, or even a quack, Now when I said homely, I meant what I said, By lunchtime tomorrow they’ll be roasted instead.” Mae’r Saesnes Nicole Bourcier, ‘di bygwth codi’i phac, Ni welodd Pic fath natur, na neb erioed mor grac. Roedd defaid yr hen Picton yn pori’i thir yn slic, Ond wedi’r ‘ffafr’ yma hi waeddodd “get out quick!!”. Fe hoffwn ei longyfarch, ar ganfod ffordd mor dda, Cael gwared Sais o’r ardal, un llai yn awr fydd bla.

    noj1w4
    Eurfyl Lewis o gangen Beca yn cael ei gadeirio am y Gerdd Ddigri yn Eisteddfod yr Hoelion Wyth. Ar y chwith gwelir Elfed Howells a oedd yn gyfrifol am y seremoni ynghyd a Huw Griffiths a Ken Thomas, ceidwaid yr Hoelen