Skip to content

Eisteddfod 2016

    Cynhaliwyd Eisteddfod blynyddol yr Hoelion Wyth yng nghastell Aberteifi ar nos Wener, Mawrth 4ydd. Arweinydd y noson oedd Vaughan Evans, Aberporth a’r ddau feirniad oedd Rhidian Evans, Aberteifi ac Arwyn Reed, Aberaeron. Cafwyd cystadlu brwd drwy gydol y nos a cyflwynwyd Tlws Beca i’r gangen a fwyaf o bwyntiau yn y cystadlaethau llwyfan i gangen Cors Caron a cyflwynwyd Tlws yr Eisteddfod i’r gangen wnaeth ennill y marciau uchaf hefyd i gangen Cors Caron. Enillwyd y gadair am ysgrifennu cerdd ddigri ar y testun “Y Ddamwain” gan Iwan Thomas, Sion Cwilt a’r goron am ysgrifennu telyneg ar y testun “Fy Arwr” gan John Jones, Cors Caron – llongyfarchiadau mawr i’r ddau ar eu llwyddiant. Cyflwynwyd Tlws cangen Aberporth am y perfformiad gorau ar y llwyfan i sgetsh Cors Caron. Cafwyd noson hyfryd yng nghwmni’n gilydd a diolchodd Calfin Griffiths, y cadeirydd Cenedlaethol i Rhidian ac Arwyn am feirniadu, i Vaughan am arwain y noson yn ei ffordd unigryw, i staff y castell am ddarparu cawl blasus ac am ganiatau i ni gynnal yr Eisteddfod yn y castell, i gangen Aberporth am drefnu’r noson ac i aelodau’r canghennau am eu cefnogaeth.
    Roedd John Davies, Aberporth ( un o sylfaenwyr yr Hoelion Wyth ) yn dathlu ei benblwydd yn 91 oed dau ddiwrnod wedi’r Eisteddfod acymunodd pawb fel un cor i ganu penblwydd hapus iddo.
    Dyma restr y canlyniadau:-

    Dweud Joc
    1. John Meredith, Cors Caron
    2. Hywel Lloyd, Sion Cwilt
    3. Ronnie Howells, Hendy Gwyn

    Can Werin
    1. Eurfyl Lewis, Robert James a Rhys Hughes, Beca
    2. Criw Aberporth
    3. Vaughan Evans, Cors Caron
    3. Criw Sion Cwilt

    Sgetsh
    1. Cors Caron
    2. Aberporth
    3. Sion Cwilt

    Cor
    1. Aberporth
    2. Cors Caron
    2. Sion Cwilt
    3. Beca

    Brawddeg ar y gair “Tafarn”
    1. Ian ap Dewi, Sion Cwilt
    2. Selwyn Jones, Cors Caron
    3. Geraint Morgan, Cors Caron

    Limrig yn cynnwys y llinell “ Un diwrnod i lawr yn Shir Benfro”.
    1. Ian ap Dewi, Sion Cwilt
    2. Eurfyl Lewis, Beca
    3. Vaughan Evans, Cors Caron

    Telyneg ar y testun “Fy Arwr”
    1. John Jones, Cors Caron
    2. Lyn Ebeneser, Cors Caron
    3. Lyn Ebeneser, Cors Caron

    Cerdd ddigri ar y testun “Y Ddamwain”.
    1. Iwan Thomas, Sion Cwilt
    2. Lyn Ebeneser, Cors Caron
    3. Eurfyl Lewis, Beca

    Y Delyneg

    ARWR – (I gofio am Terry Wogan a fu farw rai wythnosau’n ol)

    I blant ein gwlad mewn angen,hwn oedd Crist-
    er na chyffyrddodd hwy a’i law erioed
    er mwyn eu gwella,-ond fe roddodd glust
    i wrando ac i annog yn ddi-oed.

    Bob Tachwedd byddai wen yn llenwi’r sgrin,
    a’i swyn wyddelig yn cydlynu’r nos-
    ond lletach fyddai gwen ddioddefwyr blin
    wrth iddo’u codi o ddyfnderoedd ffos.

    A heddiw mae’i ddylanwad dros y wlad
    a phlantos lu’n cael cysur yn eu poen-
    O’r hedyn bach a blannwyd,tyfodd had
    o gysur ac o obaith, hwyl a hoen.
    Fel Crist a ddenodd blantos yn ei oes,
    aeth hwn i’w fedd,-ond ni fu’n cario’r groes.

    FFUGENW- CRISTION

    Yr awdur buddigol John Jones

    John Jones Y Goron

    Y Gerdd Ddigri

    Y DDAMWAIN (DYSGU GYRRU)

    Oedd Mari pob wythnos yn mynd lan i Lambed
    I siopa’n y Cop, ac i alw am baned
    ‘Da’i chwaer, Cathrine Jen
    (Odd yn fenyw fach clên)…

    Ond fe stopiodd Arriva areifo’n y pentre’
    A Mari o’r herwydd yn styc yn ei chartre,
    ‘Bwc-a-bws’ medde nhw oedd yr ateb i Mari,
    “Hec-o-ffws” oedd yr ateb gan Mari i hynny!

    O bentre’ bach Cribyn odd’ hi’n ormod o wacen
    I gerdded i Lambed am glonc fach a chacen.
    A hithau yn colli ei wâc pnawn Dydd Iau
    Odd’ dim dewis – ond dysgu i ddreifio, yn cloi!

    Aeth am wersi da Dic yn yr ‘Ysgol Moduro’
    (Rôl cael morgej er mwyn iddi gallu ‘fforddio).
    Roedd Mari yn hen – a’i chlywed yn prin,
    Ac oedd mynd ar y ffordd yn risg achos hyn!

    Oedd hi’n giamstar yn wir ar y throtl a’r brêc
    Ond serch hynny o hyd, roedd ‘na ambell fistêc…
    Doedd ganddi ddim cliw am ddefnyddio ger stic
    A druan o’r herwydd am gerbocs yr’hen Dic!

    Ar lesson un diwrnod yn gyrru trwy Cribyn
    Doth hi’n amser i ddysgu am stopio yn sydyn
    “rhaid ti breco” medd Dic. “pan fwra’i y dash’
    Ond odd’ Mari heb glywed – ac o jiawch….aeth hi’n smash!

    Aeth y car yn garlibwns trwy’r bwlch mewn i gae…
    A’r gat – yn rhacs jibiders yn ôl rhai!
    Rownd a rownd aeth y mini i ben pella’r berllan
    A’r car trwy ryw wyrth yn dala yn gyfan!

    Ond doedd Dic wedi hynny byth cweit yr un fath,
    Aeth ei nerfe fe’n rhacs – aeth o ddrwg, i lot wath!
    Ond fe barodd hi Mari da’r gwersi rhaid dweud
    Ac fe wellodd hi dipyn r’ol cael ‘hearing aid’…

    Doth hi’n amser i dynnu ein stori i’w ddiwedd
    A’i derfyn rhaid dweud, sydd ychydig yn rhyfedd…
    Nawr ma Mari pob wythnos yn mynd lan i Lambed
    I siopa’n y Cop, ac i alw am baned.

    Dyddie hyn mae’n wasanaeth sy’n saff a di-ffws
    Achos Mari chi’n deall, sy’n gyrru y bws!

    Y Doc

    Yr awdur buddigol Iwan Thomas

    Iwan Thomas - Y Gadair

    Y ddau