Skip to content

Ebrill 2024

    Cynhaliwyd cyfarfod mis Ebrill, fel arfer, yn lolfa Clwb Rygbi Hendygwyn. Dymunwyd gwellhad llwyr a buan i John Arfon at ôl triniaeth yn yr ysbyty yn ddiweddar.
    Estynnwyd croeso cynnes gan Claude James y cadeirydd i’n siaradwraig wadd, sef Mrs Annalyn Davies o Bancyfelin. Mae Annalyn, ers sawl blwyddyn wedi ymddeol ar ôl gyrfa lwyddiannus ym myd addysg ac yn awr yn gwasanaethu ei chymuned gyda brwdfrydedd. Mae’n Faer tref San Cler ac yn swyddog cymunedol o dan adain Bethlehem Newydd, Pwlltrap. Yn ogystal mae’n cefnogi eglwysi ardal eang fel pregethwr lleyg.

    Testun ei hanerchiad oedd Tŷ Croeso. Wrth edrych nôl i’r cyfnod clo a oedd yn amser gofidus ac anodd a’r capeli yn gorfod cau fe ddaeth daioni o’r cyfnod tywyll. Rhaid oeddd medddwl am bethau gwahanol a gosod seiliau cadarn i’r dyfodol a tynnu sylw pobl i fodolaeth y capel a bod gweinidogaeth i gael yn yr ardal.

    Penderfynwyd addasu’r capel i fod yn adeilad aml bwrpas drwy gael gwared o’r hen seddau pren, ail osod y llawr drwy ddefnyddio’r blociau gwreiddiol a lleoli caffi yn yr adeilad.

    Gwireddwyd y weledigaeth gyda Undeb yr Annibynwyr, ar ôl gwneud cais, yn barod i ariannu’r prosiect gyda grant o £50,000 dros pum mlynedd. Roedd hyn yn cynnwys cyflogi, yn rhan amser, swyddog cymunedol i gydlynu’r gwaith a fe geisiodd Annalyn am y swydd a bu’n llwyddiannus.
    Drwy arweiniad Annalyn a gyda chefnogaeth gweinidog ac aelodau Bethlehem Newydd heb anghofio cefnogaeth pobl yr ardal oedd ddim yn perthyn i gapel, cefnogwyd llawer elusen fel Lloches i Ferched yng Nghaerfyrddin, Llyfrau Llafar, mudiad Coda Nia, Plant Dewi ac eraill. Hefyd, trefnwyd digwyddiadau cyffrous i godi arian ac mae’r Parch Rhodri Glyn Thomas yn ysgrifennu cylch lythyr yn rheolaidd yn cynnwys myfyrdod ac mae pobl sydd ddim yn mynychu unrhyw gapel neu eglwys yn derbyn copi.

    Roedd hwn yn gyflwyniad gwych a brofodd nad oedd dim yn dywyll yng ngolwg Annalyn a diolchwyd iddi gan Ithel Parri Roberts.

    Yn dilyn, cafwyd trefniadau’r daith ddirgel gan Mel Jenkins gyda chroeso i ddynion sydd ddim yn aelod o’r hoelion i ymuno â’r daith.