Skip to content

Ebrill 2023

    Cynhaliwyd cyfarfod mis Ebrill fel arfer yn lolfa Clwb Rygbi Hendygwyn.  Y siaradwyr gwadd oedd David Thomas a’i bartner, Anthony Rees, cynhyrchwyr yr enwog JIN TALOG.

    Estynnodd y Cadeirydd, Claude James, groeso cynnes iddynt a’u cyflwyno fel dau sydd wedi troi’u cefn ar yrfaoedd llewyrchus – David o fyd addysg ac Anthony o fyd busnes ac wedi prynu fferm fach, sef Rhyd y Garreg Ddu yn Talog. Maent hefyd yn cadw nifer o wahanol anifeiliaid a thyfu llysiau organig.

    Mae’r ddau wedi dysgu ac yn rhugl yn y Gymraeg  a cafodd David ei anrhydeddu yn Eisteddfod Genedlaethol 2021 fel Dysgwr y Flwyddyn a chael ei dderbyn i’r Orsedd a’i urddo â’r Wisg Wen.

    Mae JIN TALOG yn cael ei gynhyrchu gan ddefnyddio’r cynhwysion gorau posib a gyda dŵr pur sy’n tarddu ar y fferm.  Aethpwyd a ni rwy’r drwy’r broses o gynyrchu’r Jin ac mae’n cael ei werthu a’i ddosbarthu drwy Gymru ac yn wir drwy’r byd wrth i gwsmeriaid archebu ar lein ac mae popeth yn cael eu hysbysebu a’u labeli’n ddwy-ieithog.

    Mae’r ddau i’w canmol am eu Cymreictod ac mae’r balchder eu bod wedi dysgu Cymraeg yn amlwg.

    Cafodd pawb oedd yn bresennol gyfle i flasu’r Jin a mwynhawyd y noson yn fawr iawn yn eu cwmni.  Hanes busnes llwyddiannus wedi ei gyflwyno’n hamddenol, gyda llawer o hiwmor. Diolchwyd yn wresog iddynt gan Verian Williams.