Skip to content

Ebrill 2019

    Yng nghyfarfod mis Ebrill, y siaradwr gwadd oedd Huw Davies o Lanymddyfri ac estynnwyd croeso cynnes iddo gan y Cadeirydd, Claude James. Athro oedd Huw cyn ymddeol a bu’n Bennaeth ar Ysgol Llanwrda am rai blynyuddoedd,

    Ei ddiddordeb mawr, ers blynyddoedd, yw casglu hen greiriau ac mae ganddo gasgliad helaeth yn mynd nôl hyd at y ddeunawfed ganrif.
    Yn hytrach nag egluro pob eitem, fe osododd gwis i’r aelodau, i ddyfalu pa ddefnydd neu ddiben oedd iddynt, yn unigol. Ar ôl eu gweld yn fanwl, cafwyd cynnig ar bymtheg o’r creiriau ac mae’n rhaid cyfaddef (ag eithrio un neu ddau), anodd iawn oedd y dasg.
    Ar y diwedd, cafwyd eglurhad am fod un teclyn a’i ddiben yn yr amser gynt. Bu’n noson ddiddorol dros ben a diolchwyd i’r gwestai, yn wresog gan John Arfon Jones, sydd ei hun yn ymddiddori ac yn arbenigwr ar hen bethau.