Skip to content

Ebrill 2018

    Un o’r aelodau oedd y gŵr gwâdd yng nghyfarfod mis Ebrill, sef Myrddin Parri o Langynin. Estynnwyd croeso iddo gan y Cadeirydd ac ar yr un pryd, dymuno gwell iechyd iddo i’r dyfodol.
    Pwnc Myrddin oedd y traddodiad o roi ‘nôd’ yng nglustiau defaid. Roedd hwn yn bwysig ac yn dal i fod mewn ardaloedd, nid yn unig yng Nghymru, ond hefyd drwy’r Deyrnas Unedig.
    Mae’n, bwysig yn bennaf yn ardaloedd mynyddig, lle mae defaid yn crwydro ac yn medru cymysgu gyda defaid ffermwyr eraill. Mae gan bob ffarmwr ei nôd ei hun drwy dorri patrwn neu batrymau bychan yng nglust y ddafad.

    Pan oedd Myrddin yn ffermwr ac yn pori’r mynyddoedd yn ardal ei fagwraeth yn y Canolbarth, roedd yn defnyddio nôd ei fferm i adnabod ei ddefaid.
    Dangosodd rhai llyfrau o wahanol ardaloedd gyda lluniau o gannoedd o nodau, gyda rhai yn rhestri enwau’r perchnogion.
    Cyflwyniad diddorol iawn a diolchwyd yn wresog iddo gan Dewi James.