Skip to content

Ebrill 2017

    Y siarawraig wâdd yng nghyfarfod olaf y tymor (heblaw am y Daith Ddirgel ar Ebrill 27ain) oedd Beti-Wyn James o Bwlltrap.
    Nid oedd angen cyflwyno Beti-Wyn gan fod pawb yn ei hadnabod ond estynnwyd croeso cynnes iddi gan y Cadeirydd.

    Testun ei haraith, gyda chymorth lluniau, oedd ‘Eglwysi’a’r cerrig beddau sydd yn eu mynwentydd. Dyma ddiddordeb mawr Beti-Wyn ac aeth a’r aelodau, yn bennaf, i eglwysi Ceredigion lle mae rhai o enwogion Cymru wedi eu claddu.

    Cafwyd cyflwyniad diddorol iawn a diolchwyd iddi gan y Cadeirydd.