Yng nghyfarfod mis Ebrill, ein siaradwr gwâdd oedd Dr Hedydd Davies, Capel Dewi, Caerfyrddin. Cawsom hanes ei fywyd o’r amser yn ysgol Gynradd Pentrepoeth, Caerfyrddin hyd ei ymddeoliad. Cafodd yrfa ddisglair ym myd addysg; fel myfyriwr ym Mirmingham, athro yn ysgolion Lloegr nes dod yn ôl i Ddyfed fel un o uwch swyddogion y Pwyllgor Addysg.
Ochr yn ochr a’i yrfa academaidd roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn athletau ac ymhob man y byddai’n gweithio, byddai’n ymuno â chlwb rhedeg yr Harriers. Mae wedi cael llwyddiant mawr fel rhedwr, mae wedi cynrychioli Cymru, a Phrydain yng ngemau’r Gymanwlad yn 1970.
Derbyniodd MBE am ei wasanaeth i athletau ond yr hyn sydd yn sefyll allan yw ei ymrwymiad i athletwyr ifanc Sir Gaerfyrddin. Mae’n Gadeirydd Harriers Caerfyrddin a’r Cylch ers dros 30 mlynedd ac wedi trefnu Ras Maer Caerfyrddin ers 25 mlynedd. Noson hynod ddiddorol a diolchwyd iddo am ei gyflwyniad gan Dewi James, un o’i gyd-ddisgyblion yng Nghaerfyrddin.
Bydd y tymor yn gorffen gyda’r trip blynyddol ar Nos Fercher, 11eg o Fai.