Skip to content

Ebrill 2015

    Cynhaliwyd cyfarfod Mis Ebrill fel arfer yn lolfa Clwb Rygbi Hendygwyn. Ein siaradwr gwâdd oedd Eifion Nicholas neu Ted fel yr adwaenir ef gan bawb. Ar ôl treulio llawer o flynyddoedd yn Meidrim, mae nawr yn byw yn Pentlepoir. Mae wedi ymddeol ers rhai blynyddoedd wedi gyrfa hir gyda Heddlu Dyfed Powys.

    Cafwyd hanes ei fywyd o’i blentyndod a’i ieuenctid yn Henllan Amgoed lle bu’n ddisgybl yn yr ysgol leol ac yn aelod ffyddlon yng nghapel Henllan. Ar ôl cael ei addysg uwchradd yn Ysgol Ramadeg Hendygwyn ymunodd â’r heddlu fel ‘cadet’ ac mewn amser cafodd ei apwyntio’n dditectif. Yr oedd yn ran o’r tîm a fu’n archwilio’n llwyddiannus i mewn i achos cyffuriau mwya’r wlad a adnabuwyd fel ‘Operation Julie’.

    Cafwyd llawer hanesyn arall ganddo a diolchwyd iddo am noson ddiddorol yn llawn hiwmor gan Dewi James.