Skip to content

Ebrill 2011

    Cynhaliwyd chweched cyfarfod y tymor o Hoelion Wyth cangen Beca yng nghaffi Beca, Efailwen ar nos Fercher, Ebrill 27ain. Cafwyd gair o groeso gan y cadeirydd Gareth Griffiths cyn iddo groesawu gŵr gwâdd y noson sef Martin Lloyd o Gilgerran. Bu Martin yn rhoi hanes ei yrfa ym myd addysg i ni, yn gyntaf fel athro yn ysgol y Preseli ac yn ddiweddarach fel Pennaeth yr ysgol. Bu’n sôn am yr anhawsterau bu rhaid ei goresgyn yn ystod y cyfnod o sefydlu ysgol ddwyieithog yn ysgol y Preseli a chafwyd noson ddiddorol yn ei gwmni. Diolchwyd iddo gan Huw Griffiths. Diolch i Robert am weini cawl blasus i ni yn ôl ei arfer – hyfryd iawn! Taith Ddirgel Blynyddol Aeth yr aelodau ar y daith ddirgel flynyddol ar brynhawn Sadwrn, Mai 7fed. Cawsom ein tywys i fferm Walterston ger Castellhaidd i gartref Henry a Margaret Dixon a’u teulu. Mae Henry wedi bod yn prynu hen dractorau (John Deere yn bennaf) dros y ddeunaw mlynedd diwethaf ac wedi ei hadnewyddu i’w cyflwr gwreiddiol. Cawsom gyfle i weld y cyfan ac roedd yn dipyn o ryfeddod i weld 22 o hen dractorau o dan yr un to! Roedd un ohonynt sef Allis Chalmers yn dyddio nôl i 1928 ac yn tanio ar y cynnig cyntaf! Roedd ganddynt gasgliad helaeth o beiriannau enfawr modern yn ogystal ac roedd y cyferbyniad rhwng y peiriannau hen a’r newydd yn drawiadol iawn. Roedd y teulu wedi paratoi te ar ein cyfer a chawsom amser pleserus yn cymdeithasu yn eu cwmni. Henry fu’n trefnu’r orymdaith genedlaethol o hen dractorau yn Hwlffordd yn ystod gwyliau’r Pasg a dywedodd fod 777 o hen dractorau wedi bod allan arni – record byd yn ôl y sôn ac mae’n debygol bydd hyn yn cael ei nodi yn y “Guinness Book of Records”. Bydd elw’r daith yn cael ei drosglwyddo i gyfeillion ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd yn fuan a chyflwynodd ein trysorydd Ken Thomas rodd ariannol i Mr Dixon ar gyfer yr apêl hwn. Diolchwyd i Henry a’r teulu gan y cadeirydd Gareth Griffiths. Ymlaen a ni oddi yno i fferm Bristgarn ger Pencaer a gweld y cloc enwog gydag ôl bwled a daniwyd gan un o filwyr a laniodd ger Pencaer yn ystod Glaniad y Ffrancod yn 1797. Diolchwyd i Raymond a Valerie Llewellyn am ymweliad diddorol gan Gareth. Teithio am adref a galw mewn am swper blasus tu hwnt yn nhafarn Penybont, Llanychaer. Diolchodd Gareth i Ann am y swper bendigedig, i Eurfyl am drefnu’r daith ac i Eifion Blaensawd am ein tywys yn ddiogel. Byddwn yn cyfarfod nesaf ar ddiwedd mis Medi. Diolch i’r aelodau am eu cefnogaeth yn ystod y flwyddyn diwethaf ac edrychwn ymlaen at flwyddyn lewyrchus a llwyddiannus arall yn hanes Hoelion Wyth Beca.