Yng nghyfarfod mis Ebrill, roedd y noson yng ngofal Mr. Mel Jenkins. Yr oedd wedi trefnu ymweliad â gweithle David Harries yn Hendygwyn. Cafwyd croeso twymgalon yno ac agoriad llygad i weld pa mor daclus a chywir y mae’r lle yn cael ei redeg. Diolchodd y Cadeirydd, Mr Ithel Parri Roberts i berchnogion y Cwmni am eu croeso ac am egluro gwaith y busnes; hefyd am y te a’r bisgedi ar ddiwedd yr ymweliad. Cinio Blynyddol Cynhaliwyd y cinio blynyddol yng Ngwesty Nantyffin – diolch yn fawr iddynt am y croeso a’r bwyd blasus. Trefnwyd y noson gan Mr. Ronnie Howells ond yn anffodus, oherwydd salwch, method ef a bod yno. Dymunwn wellhad buan iddo. Croesawodd y Cadeirydd, Mr. Ithel Parri Roberts, y g[r gwâdd sef Mr Phillip Higginson. Cafwyd noson ddiddorol ganddo pan fu’n son am hen faledau Cymru ac fe gafodd yr aelodau gyfle i ymuno yn y canu. Diolchodd y Cadeirydd iddo am yr adloniant gwych.