Cynhaliwyd pumed cyfarfod y tymor o Hoelion Wyth cangen Beca yng nghaffi Beca, Efailwen ar nos Fercher, Mawrth 31ain. Cafwyd gair o groeso gan y cadeirydd Gareth Griffiths cyn iddo groesawu g[r gwadd y noson sef Peter Lewis o Crymych. Mae yntau yn ffensio o gwmpas ffermydd yr ardal ers blynyddoedd bellach ac mae galw mawr am ei wasanaeth. Bu Peter yn rhoi hanes ei daith i Seland Newydd i ni ac yn dangos sleidiau a ffilm o’i ymweliad. Cafwyd noson hyfryd yn ei gwmni a diolchwyd iddo am noson ddiddorol iawn gan Gareth. Diolch i Robert am weini cawl blasus i ni yn ol ei arfer – bendigedig! Bu cwmni teledu Cwmni Da yn ffilmio ychydig o Eisteddfod flynyddol yr Hoelion yng nghaffi Beca ar ddechrau mis Mawrth a gwelwyd nifer o’r aelodau ar rhaglen Pethe ar S4C ddiwedd mis Mawrth.