Skip to content

Ebrill 2012

    Cynhaliwyd chweched cyfarfod y tymor o Hoelion Wyth cangen Beca yng nghaffi Beca, Efailwen ar nos Fercher, Ebrill 27ain. Cafwyd gair o groeso gan y cadeirydd Lyn Howells cyn iddo groesawu gwraig wadd y noson sef Anna Williams o Landysilio. Bu Anna’n son am ei swydd yn trefnu cystadleuaeth BBC Canwr y Byd ac yn esbonio cymaint o waith sy’n ynghlwm â hi. Daeth yn amlwg o’r dechrau fod Anna yn gwbwl ymroddedig i’r gwaith a bod ei dawn amlwg am drefnu o gymorth mawr iddi wrth gyflawni holl ddyletswyddau’r swydd. Cafwyd noson ddiddorol yn ei chwmni a diolchwyd iddi gan Lawrence Bowen. Diolch i Robert am weini cawl blasus i ni yn ôl ei arfer.