Skip to content

Ebrill 2009

    Cyfarfu’r aelodau yn ôl eu harfer yng nghaffi Beca, Efailwen ar nos Fercher, Mawrth 25ain. Cafwyd gair o groeso gan y Cadeirydd Robert James cyn iddo gyflwyno’r g[r gwâdd sef y Prifardd Ceri Wyn Jones o Aberteifi. Soniodd amdano fel person talentog ac amryddawn – bu’n cynrychioli ysgolion Cymru mewn rygbi pan yn yr ysgol uwchradd, enillodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Bala yn 1997, bu’n Fardd Plant Cymru rhwng 2004 a 2005 ac enillodd Cân i Gymru gyda Einir Dafydd yn 2007 gyda’r gan “Blwyddyn Mas” Mae wedi cyhoeddi llyfrau o’r enw Dwli o Ddifri, Nawrte Blant a Dauwynebog. Cawsom noson wych yn ei gwmni wrth iddo sôn am y bobl fu’n ddylanwad mawr arno megis T Llew Jones a Dic Jones. Bu hefyd yn sôn am wahanol dafodiaethau ac yn adrodd ambell gerdd. Diolchodd Ken Thomas i Ceri Wyn Jones am noson hyfryd ac yna bu pawb yn mwynhau basned o gawl bendigedig Robert.