Skip to content

Ebrill 2009

    Croesawodd y Cadeirydd, Mr. Verian Williams y wraig wâdd i gyfarfod mis Ebrill, sef Heledd ap Gwynfor. Cafwyd noson ddiddorol dros ben pan fu’n sôn am y cyfnod a dreuliodd yn China, yn dysgu Saesneg. Buodd yno am ddwy flynedd ac roedd ganddi ddigon o straeon i’w ddweud. Diolchiodd y Cadeirydd iddi ar ddiwedd y noson.